Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) Lefel 2

Trosolwg y cymhwyster

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd y dysgwyr yn ymarferol..Mae’n datblygu gallu’r dysgwyr i gynnal anghenion iechyd a gofal oedolion mewn ystod o leoliadau a bydd yn eu galluogi i ddatblygu a dangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer mewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol. Yn bennaf, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn gallu:

  • Deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddoriion a gwerthoedd sydd wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Gwneud cyfraniad positif i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol trwy ei ymarfer ei hun
  • Myfyrio ar ymarfer i wella trwy’r amser
  • Deall rolau swyddi a’r ffyrdd o weithio o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • Defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn ei rôl

Ar gyfer pwy mae’r cymhwyster?

Mae’n addas ar gyfer:

  • Dysgwyr o 16 oed sy’n gweithio mewn rôl gefnogol gydag oedolion yn y sectorau Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Dysgwyr sy’n cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Dysgwyr sydd yn gyflogedig yn y sectorau Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Dysgwyr sy’n mynd yn ol i’r gweithle ar ôl seibiant gyrfa ac yn edrych i adnewyddu eu gwybodaeth a sgiliau.
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a chyd-destunau (Oedolion).

Mae’n argymelledig bod dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) gan y bydd hwn yn ofyniad am ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn nodwedd y Brentisiaeth Sylfaenol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.


Beth fydd y cymhwyster yn cynnwys?

Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol i’r themau allweddol sydd yn y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cynnwys:

  • Ymarfer broffesiynol
  • Iechyd a diogelwch
  • diogelu
  • deddfwriaeth, polisi cenedlaethol a chodau ymarfer
  • iechyd a lles (oedolion)
  • amrywiaeth o feysydd ymarfer megis dementia neu anabledd dysgu.

Strwythur y cymhwyster

Mae’r cymhwyster yn cynnwys uned orfodol ac ystod o unedau opsiynol sydd wedi cysylltu â mathau penodol o gefnogaeth neu leoliadau iechyd a gofal.

I gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 35 credyd:

  • 14 credyd i’w cwblhau o’r uned orfodol
  • isafswm o 21 credyd i’w dewis o’r gyfres o unedau opsiynol sy’n cynnwys unedau ar gefnogaeth uniongyrchol a gofal iechyd.

Asesu ar gyfer y cymhwyster

Mae’r dysgwr angen cwblhau:

  • portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwad uniongyrchol o ymarfer
  • tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u hasesu’n fewnol.

Beth gall y cymhwyster arwain at?

Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol cymwysedig mewn rolau Lefel 2 ar draws Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd hwn hefyd yn galluogi dysgwyr i geisio am gofrestru fel gweithiwr gofal yn y cartref gyda Gofal Cymdeithasol Cymru oni bai eu bod yn cyrraedd unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://socialcare.wales/registration

Mae’r cymhwyster yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen at:

  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
  • Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
  • Lefel 4 Ymarfer Broffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Prentisiaethau Cymru

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r cwrs hwn?

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.