Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Lefel 2

Trosolwg o’r cymhwyster

Mae’r cymhwyster wedi ei ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n targedu dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach, a chweched dosbarth mewn ysgolion. Bydd yn galluogi dysgwyr i geisio am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithwyr gofal cymdeithasol mewn gofal cartref neu ofal preswyl i blant oni bai eu bod yn cyrraedd unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://socialcare.wales/registration

Ar gyfer pwy mae’r cymhwyster?

Mae’n addas ar gyfer

  • Dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • gweithiwr gofal cymdeithasol (oedolion)
  • gweithiwr gofal cymdeithasol (plant a phobl ifanc)
  • gweithiwr cymorth gofal iechyd
  • cynorthwyydd gofal iechyd.

Mae’n argymelledig bod dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cymwysterau eraill o fewn y gyfres gan y bydd hwn yn ofyniad am ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd hwn hefyd yn nodwedd o’r Brentisiaeth Sylfaenol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.


Beth fydd y cymhwyster yn cynnwys?

Bydd y cymhwyster yn darparu cyflwyniad trylwyr o egwyddorion, gwerthoedd a gwybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc.

Mae cynnwys y cymhwyster yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o:

  • egwyddorion a gwerthoedd craidd sy’n tanategu ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol;
  • ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol;
  • ymarfer effeithiol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol;
  • llwybrau cynnydd am astudiaeth bellach neu gyflogaeth o fewn diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae gan y cymhwyster tri llwybr:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc).

Gall dysgwyr dewis i gwblhau llwybrau unigol sy’n gweddu eu huchelgais gyrfa neu gallan nhw ddewis i gwblhau cymhwyster cyfunol sydd â chynnwys sy’n addas ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant a phobl ifanc.


Strwythur ac asesu ar gyfer y cymhwyster

I gwblhau llwybrau (Oedolion) a (Plant a Phobl Ifanc) o fewn y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflawni:

  • Tri asesiad sydd wedi eu llunio’n allanol ac wedi eu selio ar senario yn cael eu marcio yn y ganolfan a gellir eu cwblhau yn ystod y cymhwyster neu ar y diwedd
  • Un prawf aml ddewis sydd wedi ei lunio’n allanol ac yn cael ei farcio’n allanol.

I gwblhau’r llwybr (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc) o fewn y cymhwyster, Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflawni:

  • Pedwar asesiad sydd wedi eu llunio’n allanol ac wedi eu selio ar senario yn cael eu marcio yn y ganolfan a gellir eu cwblhau yn ystod y cymhwyster neu ar y diwedd
  • Un prawf aml ddewis sydd wedi eu llunio’n allanol ac yn cael ei farcio’n allanol.

Beth gall y cymhwyster arwain at?

Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn darparu sail eang o wybodaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn darparu’r wybodaeth i barhau i:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion/Plant a Phobl Ifanc)
  • TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Prentisiaethau Cymru

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r cwrs hwn?

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.