Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF)

Mae gan y Fframwaith Sefydlu Cymru gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (AWIF) saith adran

Yr adrannau yw:

  • Adran 1 a 2: Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adran 3 a 4: Iechyd a lles
  • Adran 5: Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Adran 6: Diogelu unigolion
  • Adran 7: Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae pob adran:

  • yn nodi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau y mae angen i weithwyr newydd eu hennill yn eu cyfnod sefydlu
  • yn nodi egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol y mae’n rhaid i weithwyr eu dangos yn cynnwys y canlyniadau dysgu gwybodaeth craidd y mae pob gweithiwr yn eu gwneud
  • yn nodi’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n berthnasol ar draws yr holl leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’r rhai sy’n benodol i’w rôl a’u gweithle.

Pwy ddylai ei gwblhau?

Mae’r fframwaith hwn ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymorth gofal iechyd sy’n newydd i’r sector, yn newydd i’r sefydliad neu’n newydd i swydd.


Gweithwyr sy’n newydd i’r sector

Dylai gweithwyr sy’n newydd i’r sector gwblhau’r dysgu a gynlluniwyd ar gyfer pump o’r saith adran (1, 3, 5, 6 a 7 i’r rhai sy’n gweithio gydag oedolion; a 2, 4, 5, 6 a 7 i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc).

Cynghorir y rhai sy’n gweithio gydag oedolion a phlant a phobl ifanc i gwblhau pob un o’r saith adran. Dylai pob gweithiwr newydd gwblhau’r deilliannau dysgu gwybodaeth graidd, ond mae’r elfennau ymarfer yn benodol i rôl y gweithiwr.

Prentisiaethau Cymru

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r cwrs hwn?

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.