Ar gyfer pwy mae’r cymhwyster?
Cymhwyster sy’n seiliedig ar ymarfer yw hwn i’r sawl sydd â phrofiad o arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n bodloni gofynion rheoleiddiol ychwanegol sy’n berthnasol i rai lleoliadau gwaith.
Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd:
- am ddangos y cymwyseddau a nodir yn y cymhwyster fel rhan o rôl eu swydd, sydd hefyd yn bodloni unrhyw reoliadau o ran isafswm oedran yn y lleoliad gwaith
- wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 Arwain a Rheoli priodol, sy’n cael y cyfle i roi’r hyn maent wedi’i ddysgu ar waith, a bodloni unrhyw ofynion rheoleiddiol ychwanegol
Beth fydd y cymhwyster yn ei gynnwys?
Mae’r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:
- Arwain a rheoli ymarfer person/plentyn-ganolog
- Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
- Arwain a rheoli ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a sefydliadol
- Ymarfer proffesiynol
- Arwain a rheoli ymarfer sy’n hyrwyddo diogelu unigolion
- Arwain a rheoli iechyd a diogelwch yn y lleoliad gwaith
Mae ystod o unedau dewisol ar gael.
Strwythur y cymhwyster
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, rhaid i ddysgwyr ennill cyfanswm o 120 o gredydau o leiaf.
- Rhaid ennill 20 o gredydau o grŵp Gorfodol A
- Rhaid ennill 70 o gredydau o grŵp Gorfodol B
- Rhaid ennill o leiaf 30 o gredydau o’r grŵp Dewisol.
Asesu
Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer caiff yr asesiad ei asesu’n allanol.
Rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:
- portffolio o dystiolaeth
- project busnes
- trafodaeth broffesiynol
At beth y gallai’r cymhwyster hwn arwain?
Mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i wella eu cyfleoedd cyflogaeth neu i barhau ag astudiaethau pellach ar lefel uwch.